Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 4 Chwefror a dydd Mercher 5 Chwefror 2014
Dydd Mawrth 11 Chwefror a dydd Mercher 12 Chwefror 2014
Dydd Mawrth 18 Chwefror a dydd Mercher 19 Chwefror 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Cynnig i wahardd Rheol Sefydlog 12.20(i) i alluogi’r eitem nesaf o fusnes i gael ei thrafod (5 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Plant a Theuluoedd mewn perthynas â phrynu tybaco ac yn y blaen ar ran plant, a gwahardd gwerthu nwyddau sy’n cynnwys nicotin (e-sigaréts ac yn y blaen) i bobl o dan 18 oed a chreu troseddau cysylltiedig (30 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (300 munud)
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig. Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dydd Mercher 5 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Dadl: Bil drafft Cymru (60 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (300 munud)
Os bydd y Cynulliad yn cytuno ar y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig. Os nad yw’r Cynulliad yn cytuno ar y cynnig, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Dydd Mercher 12 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 18 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Dadl: Cynnig i gytuno ar Femorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol (30 munud)
Dydd Mercher 19 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
Busnes y Cynulliad